Mae’r sawl brynodd docyn loteri i’r EuroMillions yn yr Alban wedi hawlio’r jacpot, sef £57.8 miliwn.

Fis yn ôl fe wnaed apêl ar i brynwr y tocyn buddugol gysylltu gyda Camelot, trefnwyr y loteri, i hawlio’r wobr ariannol.

Erbyn hyn mae cadarnhad bod perchennog y tocyn wedi cyflwyno’r tocyn gyda’r rhifau cywir arno – 5, 7, 8, 16 a 20, a’r rhifau ‘Lucky Stars’ 2 a 12.

Ar hyn o bryd mae’r tocyn yn mynd drwy’r broses o gael ei wirio, cyn y bydd yr arian yn gallu cael ei dalu.

Fe gafodd y tocyn ei brynu yn ne Ayrshire.