Mae’n “gwbl anfoesol” bod perchnogion tai haf, mewn egwyddor, yn medru derbyn gwerth miliynau o bunnau o grantiau sydd i fod i helpu busnesau bach Cymru.
Dyna mae Arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn, wedi ei ddweud, wedi iddi ddod i’r amlwg bod modd manteisio ar amwysterau penodol yn y gyfraith.
Yng Nghymru mae busnesau sydd yn cyflogi llai na naw o bobol yn medru ceisio am grantiau gwerth £10,000 fel rhan o becyn £1.1bn y Llywodraeth.
A’r pryder yw bod perchnogion tai haf – y rheiny sy’n talu treth busnes yn lle treth y cyngor – yn medru ceisio am yr arian yma.
Yng Ngwynedd yn unig, mae Plaid Cymru wedi amcangyfrif y gallai rhwng £15m a £18m gael ei ryddhau i berchnogion ail gartrefi trwy’r pecyn cefnogaeth ariannol i fusnesau bychain gan Lywodraeth Cymru.
Mae tua 5,000 o ail gartrefi yng Ngwynedd – mwy nag unrhyw sir arall yng Nghymru.
Gwrthwynebiad
“Mae’n gwbl anfoesol bod unigolion cyfoethog sydd berchen ail gartrefi yn cael mynediad i’r pecyn cymorth ariannol yma o du’r Llywodraeth,” meddai’r Cynghorydd Plaid Cymru, Dyfrig Siencyn.
“Mae’n mynd yn gwbl groes i ethos y cynllun, sef pecyn i sicrhau economi hyfyw mewn cyfnod aneconomaidd oherwydd yr aflwydd haint yma sy’n lledaenu trwy’r wlad.
“Mae’r grant i’w ddefnyddio gan fusnesau gwledig bychain yng Ngwynedd sydd wedi ei heffeithio’n uniongyrchol o ganlyniad i ddeddfau’r Llywodraeth sy’n atal cwmnïau a busnesau rhag masnachu.”
Mae Dyfrig Siencyn wedi gofyn i Lywodraeth Cymru weithredu, ac i Uned Gyfreithiol Cyngor Gwynedd ystyried y mater.
AC Arfon ar gefn ei cheffyl
“Os na fydd Llywodraeth Llafur Cymru yn newid y rheolau, fe fydd miliynau o bunnau yn cael ei dalu mewn grantiau Covid i berchnogion ail gartrefi,” meddai Siân Gwenllïan.
“Rydwi i wedi ymgyrchu ers blynyddoedd i gael newid yn y ddeddf er mwyn sicrhau fod perchnogion ail gartrefi yn methu osgoi talu trethi cyngor.
“Mae’r ddeddf ddiffygiol honno rwan yn golygu bod perchnogion ail gartrefi yn gallu hawlio grant gwerth £10k yr un.
“Mae rheidrwydd moesol ar Lafur Cymru i roi stop ar hyn ar unwaith.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae gan Awdurdodau Lleol ddisgresiwn eisoes ynglŷn â dyfarnu grantiau cymorth busnes a gallan nhw ei gwneud yn ofynnol i berchnogion busnes ddarparu tystiolaeth ychwanegol i gefnogi eu cais.
“Yn dilyn trafodaethau gydag awdurdodau lleol, rydym wedi diwygio ein canllawiau i egluro’r meini prawf y mae’n rhaid i fusnesau hunanarlwyo eu bodloni i fod yn gymwys i gael grant a’r mathau o dystiolaeth y gall awdurdodau lleol ofyn amdanyn nhw i sefydlu bod busnes yn gymwys.”