Mae rheolwr gyfarwyddwr tîm rygbi’r Llewod yn mynnu na fydd rhaid i bobol ddewis rhwng gwyliau’r daith i Dde Affrica a’r Gemau Olympaidd yn Tokyo y flwyddyn nesaf.
Fe ddaw rhybudd Ben Calveley ar ôl i’r Gemau Olympaidd gael eu symud i haf 2021 yn sgil y coronafeirws.
Dyma’r adeg pan fydd y Llewod yn teithio i Dde Affrica.
Bydd y prawf cyntaf yn Johannesburg ar Orffennaf 24, yr ail brawf yn Cape Town ar Orffennaf 31 a’r prawf olaf yn Johannesburg eto ar Awst 7.
Mae lle i gredu y gallai pob un o’r gemau ddechrau am 6 o’r gloch y nos (amser De Affrica), sy’n golygu 1 o’r gloch y bore yn Tokyo.
‘Diogelwch a lles yw’r flaenoriaeth’
“Y flaenoriaeth ar hyn o bryd yw diogelwch a lles pawb sydd wedi’u heffeithio gan bandemig y Covid-19 ar draws y byd,” meddai Ben Calveley.
“Rydym yn benderfynol o chwarae ein rhan yn yr hyn fydd yn haf eithriadol o chwaraeon.
“Ni ddylai fod unrhyw gyd-daro gyda gemau’r Llewod a digwyddiadau Olympaidd, o ystyried y gwahaniaeth amser rhwng De Affrica a Tokyo, felly ddylai cefnogwyr ddim colli allan ar unrhyw weithgarwch.
“Rydyn ni’n disgwyl cyfres wych yn erbyn pencampwyr y byd.”