Bydd Gemau Olympaidd Tokyo yn cael eu cynnal rhwng 23 Gorffennaf 23 ag 8 Awst flwyddyn nesaf, wrth i drefnwyr geisio sicrhau digon o amser i athletwyr a ffederasiynau baratoi yn sgil yr ansicrwydd mae’r coronafeirws wedi ei achosi.
Cafodd y dyddiadau newydd ar gyfer y Gemau eu cadarnhau ddydd Llun (Mawrth 30), lai nag wythnos wedi i’r pandemig coronafeirws arwain at eu gohirio.
Daeth cyhoeddiad hefyd y bydd y Gemau Paralympaidd yn cael eu cynnal rhwng Awst 24 a Medi 5 2021.
Siaradodd Arlywydd y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol, Thomas Bach, ynghylch yr angen i wneud penderfyniad yn gyflym, ac mae’r dyddiadau yma yn rhoi’r amser hiraf posib i baratoi, meddai.
Mae hefyd yn galluogi’r ffederasiynau Olympaidd a Pharalympaidd i ail-drefnu eu calendrau, gydag Athletau’r Byd yn cyhoeddi’n gyflym ei bod yn edrych ar ddyddiadau yn 2022 i gynnal Pencampwriaethau’r Byd, a oedd fod i gael eu cynnal fis Awst 2021, ond fydd bellach yn cael eu gwthio’n ôl i roi blaenoriaeth i’r Gemau Olympaidd.
“Mae angen hyn a hyn o amser ar gyfer dewis athletwyr ac iddynt gael ymarfer a pharatoi, a’r consensws mai ail-drefnu’r Gemau i wyliau’r haf yn Siapan fyddai orau,” meddai Thomas Bach.
Taith y Llewod
Mae aildrefnu’r Gemau Olympaidd yn golygu y bydd tair gêm y Llewod yn erbyn pencampwyr y byd De Affrig yn cael eu cynnal yr un pryd â’r Gemau y flwyddyn nesaf.
Bydd yr ornest gyntaf yn cael ei chynnal yn Johannesburg ar Orffennaf 24, wedi ei dilyn gan gêm yn Cape Town saith diwrnod yn ddiweddarach, ac yna yn ôl i Johannesburg ar Awst 7.
Dywed cyfarwyddwr rheoli’r Llewod, Ben Calveley: “Y flaenoriaeth nawr yw diogelwch ac iechyd y bobl sydd wedi eu heffeithio gan y pandemig coronafeirws.
“Oherwydd y gwahaniaeth amser, mae’n siŵr na fydd gemau’r Llewod yn digwydd yr union yr un pryd â digwyddiadau’r Gemau Olympaidd – felly bydd neb yn methu unrhyw gyffro.
“Rydym yn benderfynol i chwarae ein rhan mewn haf anghredadwy o chwaraeon.”