Mae pel-droediwr Cymru a Juventus Aaron Ramsey wedi rhoi £10,000 tuag at elusen yng Nghaerdydd.
Mae’r elusen, Iechyd Caerdydd a’r Fro, wedi lansio apêl i godi arian ar gyfer gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd lleol i’w wario ar aelodau bregus y gymuned.
Sicrhaodd Aaron Ramsey eu bod yn cyrraedd eu targed o £10,000 gydag un rhodd ar-lein.
“Rydym yn gwerthfawrogi eich holl waith caled,” meddai Aaron Ramsey ar dudalen JustGiving yr elusen.
Dywed yr elusen ei bod wedi ei “syfrdanu” gan gyfraniad Aaron Ramsey.
“Diolch enfawr i ti Aaron, ti yw’n seren ni,” meddai’r elusen.
Dywed yr elusen y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio gan ddoctoriaid, nyrsys a staff eraill y Gwasanaeth Iechyd “er budd y bobl fwyaf bregus” yn ystod yr argyfwng coronafeirws.