Mae gwaharddiad Steve Smith rhag arwain tîm criced Awstralia am ddwy flynedd wedi dod i ben.

Cafodd yr Awstraliad ei wahardd rhag chwarae am flwyddyn am ymyrryd â’r bêl ym mis Mawrth, ac fe ddywedodd Criced Awstralia na fyddai’n cael arwain y tîm cenedlaethol am flwyddyn arall wedi hynny.

Roedd disgwyl iddo arwain tîm y Rajasthan Royals yn yr IPL y mis yma, ond mae’r gystadleuaeth wedi’i gohirio tan o leiaf Ebrill 15 yn sgil y coronafeirws.

A dydy hi ddim yn glir eto a fydd e’n cael arwain y Tân Cymreig, tîm dinesig Caerdydd, yn y gystadleuaeth Can Pelen newydd sbon eleni, gyda phob math o griced wedi’i ohirio am y tro.

Daw helynt y feirws yn fuan ar ôl amheuon pellach na fyddai’n cael arwain y tîm Cymreig, am fod Awstralia’n teithio i Zimbabwe ar yr un pryd, a’r disgwyl oedd y byddai’n cael ei enwi yn y garfan.

Mae’n dweud ei fod e’n cymryd “un dydd ar y tro” ar hyn o bryd.