Mae Aaron Ramsey a’i gyd-chwaraewyr yn Juventus wedi cytuno i ildio’u cyflogau tan fis Mehefin yn sgil y coronafeirws.

Fyddan nhw na’r rheolwr Maurizio Sarri ddim yn cael eu talu eto tan fis Mehefin, ar ôl i chwaraeon ar draws y byd ddod i ben am y tro, ond mae’r clwb yn barod i drafod telerau pe bai’r tymor yn ailddechrau.

Mae disgwyl i’r clwb arbed hyd at 90 miliwn ewro (£80m) yn sgil y cytundeb.

Mae nifer o glybiau eraill yn dilyn yr un drefn, gan gynnwys Barcelona ac Atletico Madrid.