Fe allai pobl sy’n parhau i anwybyddu rheolau i aros adre yn sgil y coronafeirws fod yn torri’r gyfraith a chael eu harestio gan yr heddlu.
Mae’r Swyddfa Gartref wedi rhybuddio y bydd pobl sy’n wfftio’r mesurau llym yn cael dirwy o £60 ac un arall o £120 am ail droseddu.
Mae swyddogion yn Lloegr wedi cael pwerau newydd i sicrhau bod pobl yn cadw at y mesurau newydd i aros adref ac osgoi teithiau sydd ddim yn angenrheidiol.
Daeth y rheolau newydd i rym am 1pm ddydd Iau (Mawrth 26).
Fe fyddan nhw’n gallu gorchymyn y cyhoedd i fynd adre, gadael lleoliad, a rhwystro grwpiau o bobl rhag dod at ei gilydd.
Fe allai unrhyw un sy’n gwrthod rhoi eu henw a chyfeiriad er mwyn osgoi cael dirwy gael eu harestio.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel mai pwrpas y rheolau newydd yw “diogelu’r cyhoedd a chadw pobl yn ddiogel.”
Ond mae ymgyrchwyr hawliau dynol wedi mynegi pryder am y pwerau newydd. Mae Liberty yn dweud y dylai’r coronafeirws gael ei drin fel mater iechyd cyhoeddus nid mater troseddol.