Roedd rhai o’r trenau ar rwydwaith danddaearol Llundain yn llawn bore ’ma (dydd Mawrth, Mawrth 24).
Roedd hyn oriau’n unig ar ôl i’r Prif Weinidog Boris Johnson gyhoeddi mesurau llym yn rhwystro pobl rhag gadael y tŷ ddim ond i siopa am fwyd sylfaenol ac i ymarfer corff gerllaw eu cartref.
Cyhoeddodd y Prif Weinidog bod casgliadau cyhoeddus o dros ddau berson yn cael ei gwahardd a bod pob siop yn cau, ac eithrio rhai sy’n gwerthu bwyd, fferyllfeydd, banciau a swyddfeydd post.
Ond mae penaethiaid heddlu ledled Prydain wedi rhybuddio eu bod wedi derbyn llwyth o alwadau nos Lun (Mawrth 23) gyda chwestiynau ynghylch pa weithgareddau a ganiateir, gydag Aelodau Seneddol hefyd yn derbyn galwadau.
Mae lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol yn awgrymu bod nifer o bobl yn Llundain yn dal i ddefnyddio trenau tanddaearol, gan arwain Maer y ddinas Sadiq Khan i bledio arnynt: “Alla i ddim dweud hyn yn ddim cryfach, mae’n rhaid i ni stopio defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus lle nad yw’n angenrheidiol ar unwaith.
“Mae anwybyddu’r rheolau hyn yn golygu colli rhagor o fywydau.”