“Helpwch ni i’ch amddiffyn ac achub bywydau. Gallwn wneud hyn gyda’n gilydd.”
Dyna oedd neges Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, neithiwr wrth gymeradwyo’r gyfres o gyfyngiadau llym ledled Prydain a gafodd eu cyhoeddi gan Boris Johnson yn gynharach.

Mae’r ddau brif weinidog yn dweud y “dylai pawb newid eu ffordd o fyw”. Mae’n sicr y bydd rhagor o gwestiynau’n codi am beth yn hollol mae hyn yn ei olygu. Yn y cyfamser, rhoddodd Golwg360 gynnig ar ddehongli’r canllawiau …

Gadael y tŷ – pryd?

  • Siopa angenrheidiol. Dylai hyn gael ei wneud mor anaml â phosibl a dylai pobl ddefnyddio gwasanaethau dosbarthu lle gallant.
  • Rhesymau meddygol, ee i roi gofal i bobol fregus.
  • Teithio i’r gwaith, dim ond os yw yn hanfodol gwneud hynny.
  • Ymarfer corff unwaith y dydd yn unig.

Os bydd pobol yn dewis i adael eu cartrefi mae gofyn iddyn nhw gadw pellter cymdeithasol o leiaf 2m (6 troedfedd) ar wahân i bobl eraill.

Gwaharddiadau eraill:

  • Cau siopau sydd ddim yn gwerthu nwyddau angenrheidiol, ee siopau dillad a thechnoleg.
  • Cau llyfrgelloedd, meysydd chwarae a llefydd addoli.
  • Gwahardd cyfarfodydd o fwy na dau berson (ac eithrio pobol sy’n byw gyda’i gilydd)
  • Canslo seremonïau priodas a bedydd – dim ond teulu agos bydd yn cael mynychu angladdau.

Bydd y mesurau yma mewn grym am dair wythnos, a dywedodd Boris Johnson  os na fydd y cyhoedd yn dilyn y rheolau hyn, bydd gan yr heddlu’r pŵer i’w gorfodi a rhoi dirwyon i bobol.

Gwybodaeth ychwanegol:

Ymarfer Corff

  • O dan y cyfyngiadau diweddaraf dylid ymarfer corff ar eich pen eich hun, neu gyda phobol rydych yn byw gyda nhw yn unig.

Rhieni sydd yn byw ar wahân

  • Yn wreiddiol dywedodd yr Aelod Cabinet, Michael Gove ar raglen ‘This Morning’ bore ‘ma (Mawrth 24) na fyddai modd blant symud o dŷ i dŷ.

Ers hynny mae wedi ymddiheuro am ei sylwadau, gan gadarnhau bod hawl gan rieni sydd yn byw ar wahân i symud plant o dan 18 o dŷ i dŷ.

Ceir a phrofion gyrru

  • Mae profion gyrru yng Nghymru wedi eu gohirio.
  • Bydd garejys yn aros ar agor.

Meysydd carafán ac ail dai

  • Cyhoeddodd Drakeford, ddydd Llun (Mawrth 23) bod meysydd carafanau, gwersylloedd, mannau twristaidd a safleoedd poblogaidd wedi cau i ymwelwyr yng Nghymru.