Mae’r pwysau’n cynyddu ar y Prif Weinidog Boris Johnson i gyflwyno mesurau llymach a gorchymyn pobl i aros yn eu cartrefi wedi i filoedd anwybyddu canllawiau i “ymbellhau yn gymdeithasol” i arafu lledaeniad y coronafeirws.

Dywed y Prif Weinidog ei fod yn ystyried yn “ddwys iawn” pa gamau i’w cymryd os yw pobl yn parhau i ymgynnull mewn niferoedd mawr.

Roedd ’na feirniadaeth chwyrn ymhlith Aelodau Seneddol wrth i bobl heidio i fannau twristaidd yng nghefn gwlad a thraethau dros y penwythnos.

Cafodd meysydd parcio mewn rhai lleoliadau, fel Eryri, eu llenwi yng ngogledd Cymru ac roedd yno dagfeydd ar y ffyrdd.

Dywed y cyn-weinidog Cabinet Julian Smith y byddai’n cefnogi “unrhyw fesurau” mae’r Llywodraeth yn eu cyflwyno i orfodi pobl i gydymffurfio â’r canllawiau.

Yn ôl ysgrifennydd iechyd cysgodol Llafur, Jonathan Ashworth, dylai gweinidogion fod yn gwneud paratoadau ar gyfer y “cam nesaf” tra’n dysgu gan wledydd Ewropeaidd.

Daw hyn wedi i berson 18 oed farw o Covid-19 – y claf ieuengaf yn y Deyrnas Unedig i farw o’r firws yn y Deyrnas Unedig wrth i nifer y meirw godi i 281.