Fe fydd gofyn i 70,000 o’r bobol fwya’ bregus yng Nghymru ynysu eu hunain am hyd at 16 wythnos.
Daw’r cais gan Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, wrth i Lywodraeth Cymru geisio mynd i’r afael â’r coronafeirws.
Ac mae’n dweud y gallai’r llywodraeth ystyried “cau i lawr ar yr adeg briodol”.
Gall pobol sydd â chyflyrau iechyd eraill, pobol sydd dros 70 oed a menywod beichiog gael eu cynnwys yn y categori ‘mwyaf bregus’, ac fe fyddan nhw’n cael gwybod mewn llythyr gan feddyg teulu neu arbenigwr ysbyty.
‘Y weithred fwyaf dramatig oll’
Yn ôl Mark Drakeford, pobol fregus sy’n cael cais i gyflawni’r “weithred fwyaf dramatig oll”.
“Byddwn ni’n ysgrifennu at oddeutu 70,000 o bobol yng Nghymru rydyn ni’n credu eu bod nhw’n cwympo i’r categori mwyaf bregus,” meddai mewn cynhadledd i’r wasg.
“Byddan nhw’n derbyn llythyr gan eu meddyg teulu neu arbenigwr.
“Bydd yn rhoi cyngor unigol iddyn nhw am eu cyflwr meddygol.
“Bydd yn egluro’r pecyn cymorth cymdeithasol fydd ar gael iddyn nhw.
“Ac i’r 70,000 o bobol hynny, rydyn ni’n gofyn iddyn nhw gyflawni’r weithred fwyaf dramatig oll, sef aros yn eu cartrefi eu hunain am 12 i 16 wythnos.”