Mae Mark Drakeford yn lansio ymgyrch fydd yn cynghori pobol sut i helpu pobol sy’n ynysu eu hunain yng Nghymru.

Bydd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar bethau bach fel tasgau pob dydd, gwneud cymwynasau a chyfathrebu â phobol mewn modd diogel, yn ogystal â ffyrdd o gadw corff a meddwl iach yn ystod cyfnod anodd.

Fe fydd y wefan llyw.cymru/cymorthdiogel yn cynnwys cerdyn i’w bostio trwy ddrysau cymdogion yn cynnig cymorth iddyn nhw os nad ydyn nhw’n mentro allan.

Sut i helpu pobol sy’n ynysu eu hunain

Ymhlith y pethau mae modd eu gwneud i helpu cymdogion mae:

  • mynd i siopa am fwyd a gadael nwyddau wrth y drws neu helpu pobol nad ydyn nhw’n gyfarwydd â siopa ar y we
  • gwneud cymwynasau
  • cyfathrebu – ffonio neu anfon negeseuon testun neu trwy’r cyfryngau cymdeithasol
  • annog pobol i gadw corff a meddwl iach
  • ymuno â chymunedau ar-lein, e.e. fforymau neu wefannau cymdeithasol

Mae modd lawrlwytho cerdyn ‘Cymorth Diogel’, ei lenwi a’i rannu yn y gymuned er mwyn rhoi gwybod eich bod chi ar gael i’w helpu.

Ond mae Llywodraeth Cymru’n rhybuddio nad pawb sy’n gallu helpu, ac mai dim ond pobol yn y categorïau canlynol ddylai fynd allan i helpu yn y gymuned:

  • pobol iach heb symptomau’r feirws, e.e. peswch, tymheredd uchel – a dim ond ond os nad oes gan rywun arall yn y tŷ symptomau
  • pobol o dan 70 oed – dylai pobol dros 70 ynysu eu hunain
  • merched nad ydyn nhw’n feichiog
  • pobol heb gyflwr iechyd sy’n cynyddu’r risg o gael eu heintio â’r coronafeirws

‘Cymaint o bethau da yn digwydd’

Mae Mark Drakeford hefyd yn tynnu sylw at y “pethau da” sy’n digwydd yn y gymuned ar-lein yn ystod yr ymlediad.

“Rwyf hefyd wedi gweld cymaint o bethau day n digwydd, o grwpiau côr ar-lein i ddelifro bwyd, wrth i bobol ledled Cymru fynd allan o’u ffordd i helpu eraill gyda’u hanghenion bob dydd,” meddai.

“Mae cymunedau wedi cydweithio i helpu eu cymdogion yn y cyfnod hwn o angen.

“Heddiw, rydym yn gofyn i eraill ddilyn yr esiampl ddisglair hon drwy wneud y pethau bychain i helpu, os gallant.

“Mae gan Gymru hanes balch o helpu ein gilydd ar adegau anodd – dyna yw ein natur ni.

“Os gallwn weithio gyda’n gilydd, gallwn ddod drwyddi.”