Mae dyn 28 oed o Seland Newydd a gafodd ei ddedfrydu i 17 mlynedd dan glo am lofruddio’r deithwraig o Loegr, Grace Millane, yn apelio yn erbyn ei ddedfryd o garchar.

Mae’r dyn, nad oes modd ei enwi am resymau cyfreithiol, wedi cychwyn ar y broses o apelio, meddai ei fargyfreithiwr.

“Gallaf gadarnhau fy mod yn gweithredu drosto ac ein bod wedi dechrau apêl yn erbyn y ddedfryd,” meddai.

Cafwyd y dyn yn euog o lofruddio Grace Millane drwy ei thagu mewn gwesty yn Auckland ar ôl cwrdd â hi ar yr ap canlyn Tinder ar Ragfyr 1, 2018, ddiwrnod cyn ei phen-blwydd yn 22 oed.

Daethpwyd o hyd i’w chorff yn ddiweddarach mewn cês oedd wedi’i gladdu mewn coedwig y tu allan i ddinas Auckland.

Roedd y dyn wedi honni bod Grace Millane wedi marw’n ddamweiniol ar ôl iddyn nhw gael rhyw.

Ond fe’i cafwyd yn euog gan reithgor.

Fe fu cannoedd o bobol yn cynnal gwylnos wedi ei marwolaeth ac mae’r Prif Weinidog Jacinda Ardern wedi sôn am y “tristwch a’r cywilydd” bod Grace Millane wedi cael ei lladd yn Seland Newydd.