Mae Ysgol Brynhyfryd yn Rhuthun yn cau ei drysau yn sgil pryderon am y coronafeirws.

Dyma’r tro cyntaf i ysgol yng Nghymru gau ei drysau wrth i ragor o achosion a marwolaethau ddod i’r amlwg.

“Yn dilyn y cyhoeddiad ddoe ynghylch cadw pellter cymdeithasol rhag y rheiny sydd â risg gynyddol o salwch difrifol gan Coronafeirws, hoffwn esbonio beth mae hyn yn golygu i Ysgol Brynhyfryd,” meddai datganiad ar wefan yr ysgol.

“Yng ngoleuni’r canllawiau hyn rydym wedi adnabod 23 staff sy’n cael eu gosod yn y categori agored i niwed gyda phum staff ychwanegol efo partneriaid \ priod sydd hefyd yn hynod agored i niwed.

“Er budd iechyd a lles ein staff, disgyblion a’r gymuned ehangach credaf nad oes dewis arall ond cau’r ysgol i’r holl ddisgyblion yn dechrau bore yfory.”

Y drefn newydd

Bydd athrawon yr ysgol yn parhau i weithio o adref gan gynnig adborth i ddisgyblion ar-lein.

“Er y bydd safle’r ysgol wedi ei gau, bydd ein staff addysgu yn parhau i weithio ac yn gosod a marcio gwaith y disgyblion ac yn cynnig adborth ar-lein,” meddai’r pennaeth Geraint Wyn Parry.

“Rwy’n gwerthfawrogi nad yw hyn yr un fath âchysylltiad wyneb wrth wyneb, ond byddwch â sicrwydd y byddwn yn gwneud popeth y gallwn i gefnogi ein disgyblion drwy’r cyfnod anodd hwn.”

Dydy Llywodraeth Cymru ddim wedi galw ar ysgolion i gau’n swyddogol eto.