Mae pobol yn cael eu cynghori gan brif ymgynghorydd gwyddonol Llywodraeth Prydain i beidio â chymryd tabledi ibuprofen – yn groes i gyngor Iechyd Cyhoeddus Lloegr.

Mae dryswch ynghylch cyngor Syr Patrick Vallance, ar ôl i arbenigwyr yn Ffrainc awgrymu y gallai cymryd y tabledi neu rai tebyg waethygu symptomau’r coronafeirws.

Ei gyngor erbyn hyn yw i gymryd “paracetamol neu rywbeth”.

Ond yn ôl Iechyd Cyhoeddus Lloegr, does dim digon o dystiolaeth i awgrymu bod cymryd ibuprofen yn niweidiol i’r rhai sydd wedi’u heintio.