Mae disgwyl i lywodraeth Prydain gyhoeddi newid yn y ffordd maen nhw’n ymateb i beryglon y coronafeirws mewn cyfarfod brys o’r pwyllgor argyfyngau Cobra heddiw.

Y prif newid fydd cydnabyddiaeth yw ei bod yn rhy hwyr i geisio rhwystro’r haint bellach, ac mai’r nod bellach yw ei arafu er mwyn lleihau’r pwysau ar y gwasanaeth iechyd.

Daw’r newid ar ôl i Sefydliad Iechyd y Byd gategoreiddio achosion y Covid-19 ledled y byd fel pandemig, ac ar ôl i  Donald Trump gyhoeddi gwaharddiad ar unrhyw deithio rhwng tir mawr Ewrop  ac America.

Fe fydd llawer o negeseuon y llywodraeth yn aros yr un fath fel annog pobl i olchi eu dwylo, ac mae disgwyl y bydd anogaeth pellach i gyflogwyr ganiatau pobl i weithio o gartref ac osgoi digwyddiadau sy’n debygol o ddenu torfeydd mawr.

Yn ôl cynllun gweithredu diweddaraf y y llywodraeth:

“Os gellir gohirio anterth yr achosion tan y misoedd cynhesach, gallwn leihau’r sylweddol y risg o or-gyffwrdd â ffliw tymhorol a heriau eraill sy’n gysylltiedig â’r misoedd oer.

“Mae’r cyfnod oedi yn prynu amser hefyd ar gyfer profi cyffuriau a datblygiad cychwynnol brechlau a/neu gwell therapïau neu brofion i helpu lleihau effaith y salwch.”