Mae pedwar achos newydd o coronavirus yng Nghymru.

Mae dau o Bowys ac un o Abertawe wedi bod yng ngogledd yr Eidal, ac mae un arall o Gaerffili hefyd wedi’i heintio.

Ond dydy’r unigolyn o Gaerffili ddim wedi bod dramor, a does dim awgrym bod y person hwnnw wedi dod i gysylltiad ag unrhyw un arall sydd wedi’i heintio.

Mae’r achosion diweddara’n golygu bod 19 o achosion wedi’u cadarnhau yng Nghymru erbyn hyn.

Yn ôl Dr Frank Atherton, mae’r awdurdodau yng Nghymru’n barod i ymateb i’r achosion wrth iddyn nhw godi.