Mae Rishi Sunak, Canghellor San Steffan, wedi bod yn amlinellu ei brif flaenoriaethau economaidd fel rhan o’i Gyllideb newydd.
Daw’r Gyllideb ar adeg pan fo gwasanaethau cyhoeddus dan bwysau sylweddol oherwydd coronavirus, ac mae e wedi cyhoeddi £30bn a chynllun tri cham i fynd i’r afael â’r sefyllfa, gan gefnogi’r Gwasanaeth Iechyd, gweithwyr a chyflogwyr.
Mae e wedi neilltuo £27bn ar gyfer ffyrdd a phriffyrdd, sef “y buddsoddiad mwyaf erioed” o’i fath.
Mae e’n rhewi’r dreth tanwydd am flwyddyn arall, ac yn dileu’r cynnydd yn y dreth ar gwrw, seidr a gwin.
Bydd £5bn ar gael i roi mynediad band llydan mewn rhai o ardaloedd mwyaf anghysbell gwledydd Prydain, £7bn i gefnogi pobol hunangyflogedig, busnesau a phobol fregus.
Bydd trethi busnes ar gyfer siopau bach yn cael eu dileu eleni wrth i ragolygon ddarogan twf o 1.4% yn yr economi eleni, i fyny i 1.6% y flwyddyn nesaf.
Bydd y trothwy ar gyfer Yswiriant Gwladol yn codi o £8,632 i £9,500.