Mae Rishi Sunak, Canghellor San Steffan, wedi cyhoeddi cynllun tri cham yn ei Gyllideb i fynd i’r afael â coronavirus.

Mae’n dweud bod Llywodraeth Prydain “yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw’n pobol yn iach”, ac mae hynny’n golygu cymorth gwerth £30bn.

Mae’n dweud bod y firws wedi achosi “aflonyddwch dros dro” i’r economi, ond fod y Gyllideb am arwain at “sicrwydd a diogelwch” wrth “ddarparu ar gyfer heddiw ond cyflwyno llewyrch ar gyfer yfory”.

Gyda’r darogan y gallai’r firws effeithio un o bob pump o weithwyr, mae’n dweud bod ymateb y llywodraeth yn un “dros dro, amser ac wedi’i dargedu”.

Y tri cham

  1. Mae Rishi Sunak wedi ymrwymo i roi “pa bynnag adnoddau sydd eu hangen ar y Gwasanaeth Iechyd” er mwyn trechu’r firws.
  2. Bydd modd i weithwyr hawlio tâl salwch statudol o ddiwrnod cyntaf eu salwch, a bydd y tâl ar gael i’r rhai sy’n ynysu eu hunain drwy ffonio 111. Bydd pobol hunangyflogedig hefyd yn gallu cael mynediad i fudd-daliadau salwch, a bydd y lleiafswm Credyd Cynhwysol yn cael ei ddiddymu dros dro, heb fod angen i bobol fynd i’r Ganolfan Waith.
  3. Bydd busnesau sy’n colli gweithwyr dros dro oherwydd y firws yn cael cymorth, gyda busnesau â llai na 250 o weithwyr yn cael ad-daliad ar dâl salwch statudol; bydd £1.2m o fenthyciadau ar gael i gefnogi busnesau bach a chanolig; a bydd cyfraddau busnes yn cael eu diddymu i ganolfannau adloniant bach sydd wedi’u heffeithio, a bydd grant o £3,000 ar gael i fusnesau sydd â’r hawl i gymorth trethi.