Bydd angen i San Steffan ddiweddaru ei dull gweithredu i ymdopi â coronavirus, yn ôl Aelod Seneddol a gafodd gyfarwyddyd i ynysu ei hun.
Cafodd Rachel Maskell, yr aelod seneddol dros Ganol Caerefrog, ei hannog i gymryd y cam gan wasanaeth 111 y Gwasanaeth Iechyd yn dilyn cyfarfod gyda’r Gweinidog Iechyd Nadine Dorries, sydd wedi profi’n bositif am coronavirus.
Roedd hi wedi cyfarfod â Nadine Dorries yn swyddfa’r gweinidog ddydd Iau (Mawrth 5).
“Dwi’n hollol iawn, ond yn amlwg mae’n rhwystredig gan fod yn bethau dwi eisiau bwrw ymlaen gyda nhw,” meddai.
‘Cadw draw’
Heb gynlluniau o unrhyw fath i ohirio’r Senedd, mae Rachael Maskell yn credu bod angen i’r Senedd ddiweddaru ei dull gweithredu er mwyn galluogi aelodau seneddol i gadw draw o San Steffan.
Mae hi’n awgrymu newidiadau megis cynyddu’r defnydd o bleidleisiau drwy ddirprwy fel bod y “Senedd yn gallu gweithredu” tra bod aelodau seneddol yn absennol.
“Mae angen trafod y materion yma,” meddai.