Mae cyn-athro wedi ei gyhuddo o dros 30 o droseddau rhyw yn erbyn tair merch tra’n gweithio mewn ysgol yn nwyrain Llundain.

Bydd Ben Breakwell, 39, sydd bellach yn byw ym Monkgate, Efrog, yn ymddangos yn Llys Ynadon San Steffan ddydd Llun (Mawrth 9).

Mae wedi ei gyhuddo o bedwar achos o dynnu neu greu lluniau anweddus o blant a 32 achos yn ymwneud â gweithgaredd rhywiol gyda thair merch, yn ôl yr heddlu.

Honnir bod Ben Breakwell wedi cyflawni’r troseddau tra’n athro mewn ysgol yn Hammersmith.