Mae Llywodraeth Prydain yn llwyr gefnogol i’r targed ‘miliwn siaradwyr Cymraeg erbyn 2050’, yn ôl y Prif Weinidog yn San Steffan.

Yn dilyn ei anerchiad yng nghynhadledd y Ceidwadwyr yn Llangollen, cafodd Boris Johnson ei gyfweld gan golwg360 a’i herio am ei record o ran y Gymraeg.

Adeg Eisteddfod Genedlaethol y llynedd dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, bod diwylliant Cymru yn “saff iawn” gyda Boris Johnson yn arwain.

Er yr addewid hynny, mae cryn oedi wedi bod ym mhenodiad Cadeirydd newydd S4C, a gofynnodd golwg360 os yw’r Gymraeg wir yn flaenoriaeth i’r llywodraeth.

“Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i [benodi Cadeirydd i S4C],” meddai Boris Johnson wrth golwg360.

“Ac roedd cael miliwn o siaradwyr Cymraeg yn ein maniffesto. Rydym yn hollol benderfynol i wireddu hynny.”

Addo arian i drwsio dinistr y llifogydd

Mae Boris Johnson wedi dweud ei fod yn cydweithio â Llywodraeth Cymru er mwyn trwsio dinistr y llifogydd diweddar.

Cafodd nifer o ardaloedd yng Nghymru eu heffeithio’n ddrwg wrth i dair storm yn olynol daro’r wlad.

“Fe wnawn yn siŵr bod Cymru yn cael yr hyn sydd ei angen i sortio’r dinistr ymhob man,” meddai Prif Weinidog Prydain.

“Rydym yn buddsoddi mwy o arian nag erioed o’r blaen mewn amddiffynfeydd llifogydd ac i drwsio’r difrod.”

Mae hefyd wedi datgelu bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, wedi cynnal trafodaethau gyda Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, am yr hyn sydd ei angen i drwsio dinistr y llifogydd ymhob cwr o’r wlad.

Boris yn gofyn am beint yn Gymraeg

Gallwch ddarllen rhagor o’r cyfweliad gyda Boris Johnson yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos nesaf, a gallwch glywed clip o’r Prif Weinidog yn siarad Cymraeg islaw: