Mae dau fachgen o Sir Ddinbych wedi eu dedfrydu i bum mlynedd o garchar yr un am achosi marwolaeth merch 17 oed trwy yrru’n beryglus.

Bu farw Olivia Alkir yn dilyn y gwrthdrawiad ar ffordd B5105 rhwng Rhuthun a Cherrigydrudion ym mis Mehefin y llynedd.

Cafodd pedwar arall eu hanafu yn y gwrthdrawiad rhwng Ford Fiesta coch a Mercedes du yn ardal Efenechtyd.

Plediodd Thomas Quick, 18 o Glawddnewydd, a bachgen 17 oed o Ddyffryn Clwyd – na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol – yn euog yn Llys y Goron Yr Wyddgrug heddiw (dydd Gwener, Mawrth 6).

Roedd Olivia Alkir yn sedd teithiwr y Fiesta, oedd yn cael ei yrru gan y bachgen 17 oed sydd wedi’i garcharu.

Newydd basio ei brawf gyrru oedd y bachgen, tra bod athrawon eisoes wedi mynegi pryder am y ffordd roedd Thomas Quick yn gyrru o gwmpas yr ysgol.

Y ddau fachgen yn rasio ceir

Clywodd y llys bod y ddau ffrind yn rasio pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad, gyda’r Fiesta yn taro car oedd ar ochr arall y lôn.

Plediodd y ddau fachgen yn euog i bedwar cyhuddiad o achosi niwed difrifol trwy yrru’n beryglus hefyd.

Person “prydferth, caredig a hwyliog”

Roedd Olivia Alkir newydd gael ei phenodi’n ddirprwy brif ferch Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun pan fu farw a chafodd ei disgrifio gan ei theulu fel merch “hwyliog, doeth ac uchelgeisiol”.

Soniodd mam Olivia Alkir wrth y llys am effaith ddinistriol colli eu hunig blentyn arni hi a’i gŵr.

Disgrifiodd ei merch fel person “prydferth, caredig a hwyliog”.

“Ni allwn fyth adfer yr hyn sydd wedi’i gymryd gennym ni,” meddai.