Mae gêm rygbi Iwerddon yn erbyn yr Eidal yn Nulyn wedi cael ei gohirio oherwydd pryderon am y coronavirus.
Cyn y cyhoeddiad, roedd Philip Browne, pennaeth Undeb Rygbi Iwerddon, wedi dweud y bydden nhw’n “cydymffurfio â pha bynnag gyfarwyddyd” fyddai llywodraeth y wlad yn ei gyhoeddi.
Ond dywedodd wrth gyhoeddi’r penderfyniad na ddylid cynnal y gêm “er lles y cyhoedd”.
Mae deg o bobol wedi marw yn yr Eidal o ganlyniad i’r firws, ac mae 370 o achosion wedi cael eu cadarnhau.
Roedd swyddogion iechyd y llywodraeth eisoes wedi argymell y dylai’r gêm gael ei gohirio, ond roedd Philip Browne o’r farn ei bod yn “annheg” disgwyl i Undeb Rygbi Iwerddon wneud penderfyniad o’r fath.
Dywedodd prif swyddog meddygol Iwerddon nad oedd y penderfyniad i alw am ohirio’r gêm “yn un hawdd.”
Ond yn ôl Tony Holohan “dyma’r unig benderfyniad cyfrifol allai gael ei wneud”.
Cafodd nifer o gemau ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eu gohirio yn 2001 oherwydd argyfwng clwy’r traed a’r genau.