Mae cronfa wedi cael ei sefydlu gan gefnogwyr Clwb Pêl-droed Casnewydd i helpu elusen digartrefedd yn Bradford.
Fe ddaw yn dilyn ffrae ar ôl i rai o gefnogwyr yr Alltudion anelu caneuon sarhaus at gefnogwyr am dân yn stadiwm Bradford oedd wedi lladd 56 o bobol yn 1985.
Ymhlith y rhai a gafodd eu sarhau roedd Stuart McCall, rheolwr Bradford, a’i dad wedi cael ei anafu’n ddifrifol yn y trychineb.
Daw’r dudalen ar wefan Just Giving ddiwrnod ar ôl i’r clwb ymddiheuro am y niwed a gafodd ei achosi, wrth i Heddlu Gwent hefyd gynnal ymchwiliad i’r mater.
Pan heriodd y clybiau ei gilydd ar Rodney Parade ddydd Sadwrn, yr Alltudion enillodd y gêm o 2-1.
Ond mae’r helynt yn gysgod tros y gêm erbyn hyn.
Y gronfa
Mae cronfa bellach wedi cael ei sefydlu gan Jim Drewett.
Mae £360 wedi cael ei godi hyd yn hyn.
“Yn wyneb digwyddiad diweddar yn Rodney Parade, hoffem ni gefnogwyr Casnewydd gyfrannu at Bradford Nightstop, a dweud ‘sori’ am unrhyw niwed a gafodd ei achosi i bobol Bradford,” medd neges ar y dudalen.
Cafodd Bradford Nighstop ei sefydlu yn 1993 i bobol 16-25 oed sy’n ddigartref.