Mae cystadleuaeth farddoniaeth ddwyieithog wedi cael ei lansio i ddathlu’r ffaith fod tîm pêl-droed Cymru am gystadlu yn Ewro 2020.

Mae’n brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Llenyddiaeth Cymru ar gyfer plant oedran cynradd.

Mae plant blwyddyn 6 ac iau sy’n byw yng Nghymru yn cael eu hannog i gyflwyno cerddi ar y thema Hunaniaeth yn Gymraeg neu Saesneg.

Rhaid i gerddi gael eu cyflwyno ar ran plant gan athro, rhiant neu warchodwr. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Iau 2 Ebrill 2020.

Bydd enillwyr rhanbarthol yn Gymraeg a Saesneg yn derbyn crys pêl-droed Cymru wedi’i lofnodi gan garfan Ewro 2020 Cymru, copi o’u cerdd wedi’i llofnodi gan garfan Ewro 2020 Cymru, yn ogystal â gweithdy ar gyfer eu dosbarth ysgol gan Eloise neu Gruffudd.

Bydd yr holl gerddi buddugol hefyd yn cael eu cyflwyno i chwaraewyr Cymru cyn eu gêm agoriadol yn Ewro 2020.

‘Gall unrhyw un ysgrifennu barddoniaeth’

Mae’r beirniaid yn cynnwys Gruffudd Owen (Bardd Plant Cymru), Eloise Williams (Bardd Plant cyfrwng Saesneg Cymru) a’r gantores Kizzy Crawford.

“Gall unrhyw un ysgrifennu barddoniaeth – does dim rheolau,” meddai Gruffudd Owen, prifardd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018, a ddefnyddiodd y ffugenw Hal Robson-Kanu.

“Dw i eisiau i bob plentyn deimlo eu bod nhw’n gallu rhoi cynnig arni a chael hwyl, dyna’r peth pwysicaf.”

‘Cyfle gwych i blant Cymru herio’u hunain’

“Dyma gyfle gwych i blant Cymru herio eu hunain ac arddangos eu creadigrwydd,” meddai Eloise Williams.

“Mae barddoniaeth yn ffordd arbennig o ddarganfod ein hunain a defnyddio ein lleisiau unigryw.

“Rwy’n edrych ymlaen at ddarllen yr hyn sydd gan y plant i’w ddweud am hunaniaeth, ac rwy’n gwybod y bydd cyfoeth o dalent a gonestrwydd yn eu geiriau. Mae lleisiau a barn pobl ifanc yn arbennig, a galla i ddim aros i’w dathlu!”

‘Archwilio hunaniaeth’

“Ers yn ddim o beth, dwi wedi defnyddio geiriau a cherddoriaeth i archwilio a herio fy hunaniaeth fy hun,” meddai Kizzy Crawford.

“Fel artist hil gymysg o Gymru, dwi’n llawn cyffro i fod yn rhan o’r gystadleuaeth hon a fydd yn annog plant i archwilio beth mae hunaniaeth yn ei olygu iddyn nhw.”

‘Ysbrydoli ac annog’

“Rwy’n falch iawn fod y ffaith ein bod wedi cyrraedd yr Ewros ddim yn unig am gynyddu diddordeb plant Cymru mewn pêl-droed, ond drwy ein cystadleuaeth farddoniaeth â Llenyddiaeth Cymru, y bydd yn ysbrydoli ac yn annog plant i ddefnyddio barddoniaeth i fynegi eu hunain ac archwilio eu hymdeimlad o hunaniaeth,” meddai Ryan Giggs.