Jordan Bancroft (Llun trwy law y Weinyddiaeth Amddiffyn)
Fe aeth y Weinyddiaeth Amddiffyn ag arian oddi ar deulu milwr a fu farw yn Afghanistan, yn ôl adroddiadau papur newydd.

Roedden nhw wedi anfon llythyr at dad Jordan Bancroft o ardal Burnley yn dweud eu bod wedi rhoi gormod o arian i’r milwr, gan ei fod wedi marw ar ganol mis.

Roedd £433 wedi cael ei dynnu o arian a oedd yn ddyledus i’r milwr ifanc am wyliau oedd heb eu cymryd.

Roedd y tad, Tony Bancroft, wedi condemnio’r Weinyddiaeth am anfon llythyr biwrocrataidd – roedd yn teimlo fel pebai rhywun wedi ei daro yn ei lygad, meddai.

‘Rhaid cael system deg’

Yn awr mae’r Weinyddiaeth wedi ymddiheuro am unrhyw ofid oedd wedi ei achosi, gan bwysleisio na fyddan nhw fyth yn gofyn i deuluoedd dalu arian yn ôl.

Yn hytrach, medden nhw, fe fydd unrhyw or-daliadau’n cael eu tynnu o arian sy’n ddyledus i ystâd y milwr.

Yn ôl y Weinyddiaeth, datblygiad newydd oedd talu i deuluoedd milwyr am wyliau oedd heb eu cymryd ond roedd rhaid ystyried gor-daliadau hefyd.

“Mae pob achos sy’n ymwneud â marwolaeth ar faes y gad yn gorfod cael ei drin gyda gofal arbennig ac er mwyn hynny rydym yn gwneud ein gorau i gael rheolau clir i sicrhau fod y sytem yn deg at bawb,” meddai llefarydd.