Adeilad Undeb Unite yn Lerpwl (Chemical Engineer CCO 1.0)CC0
Mae’r prif undebau llafur wedi condemnio adroddiad sydd wedi ei roi i’r Llywodraeth yn rhoi’r hawl i gyflogwyr sacio rhai gweithwyr heb esboniad.

Mae’r adroddiad yn dangos gwir wyneb “annifyr” y Blaid Geidwadol, meddai Ysgrifennydd Cyffredinol undeb mawr y GMB, Paul Kenny.

Roedd ef ac arweinwyr eraill yn ymateb i adroddiad newydd a oedd wedi ei gomisiynu gan y Llywodraeth ac sy’n argymell cael gwared ar y rheolau diswyddo annheg.

Roedd hwnnw’n dweud bod rhaid i fusnesau gael yr hawl i sacio gweithwyr llai cynhyrchiol  gyda’r taliadau diswyddo lleia’ posib.

Yr adroddiad a’r ymateb

Yn ôl awdur yr adroddiad, y buddsoddwr menter, Adrian Beecroft, roedd y rheolau diswyddo annheg yn cael “effaith ofnadwy” ar fusnesau ac yn eu hatal rhag creu rhagor o swyddi.

“Mae canran o weithwyr, yn ddiogel wrth wybod y bydd eu cyflogwyr yn amharod i’w diswyddo, yn gweithio ar lefel is na’u gallu, yn gorffwys ar eu rhwyfau,” meddai.

Ond gweithwyr gwledydd Prydain yw’r rhai hawsa’ i’w sacio yn Ewrop, meddai’r undebau llafur.

“Mae David Cameron yn bwriadu mynd â’r wlad yn ôl ymhellach i ddyddiau tywyll y cyflogi a’r sacio,” meddai Len McCluskey, Ysgrifennydd Cyffredinol undeb Unite.