Mae Heddlu Llundain wedi cyfeirio’u hunain at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yn dilyn marwolaeth y gyflwynwraig deledu Caroline Flack.

Cafwyd hyd i’r ddynes 40 oed yn farw yn ei fflat yn Llundain ddydd Sadwrn (Chwefror 15), ac fe ddaeth i’r amlwg iddi gymryd ei bywyd ei hun.

Roedd hi’n wynebu achos llys am ymosod ar ei chariad Lewis Burton, 27.

Roedd cyfarwyddiaeth safonau proffesiynol Scotland Yard wedi cynnal adolygiad o’r holl gyswllt a fu rhyngddyn nhw a Caroline Flack cyn trosglwyddo’r achos, fel sy’n arferol pan fydd rhywun a fu yng ngofal yr heddlu’n marw.

Does neb wedi cael ei symud o’i swydd dros dro, meddai’r heddlu.

Cefndir

Camodd Caroline Flack o’r neilltu o gyflwyno cyfres ‘Love Island’ ar ITV2 pan gafodd hi ei harestio a’i chyhuddo o ymosod.

Plediodd hi’n ddieuog pan aeth hi gerbron ynadon yn Highbury Corner ym mis Rhagfyr.

Clywodd y llys fod Caroline Flack wedi cyfaddef ar Ragfyr 12 iddi ymosod ar Lewis Burton, a dywedodd hi wrthyn nhw y byddai hi’n cymryd ei bywyd ei hun.

Cafodd hi ei rhyddhau ar fechnïaeth, a’i gorchymyn i beidio â chysylltu â Lewis Burton er nad oedd e o blaid ei herlyn hi.

Mewn neges ddrafft ar Instagram, daeth ei chyflwr meddwl i’r amlwg ac roedd hi’n dweud bod ei byd “wedi chwalu” ac mai “damwain” oedd yr ymosodiad honedig.