Mae ansicrwydd dros effaith Brexit yn gwthio mwy a mwy o fusnesau tramor i sefydlu swyddfeydd yn yr Iseldiroedd, yn ôl llywodraeth y wlad.
Ers refferendwm 2016, mae 140 o fusnesau wedi sefydlu presenoldeb yn yr Iseldiroedd, gyda 78 yn symud eu gwaith yno llynedd, yn ôl Asiantaeth Buddsoddiad Tramor yr Iseldiroedd.
Dywed yr asiantaeth bod ansicrwydd ymysg busnesau yn cynyddu oherwydd nad yw dyfodol perthynas fasnach Prydain â’r Undeb Ewropeaidd yn glir eto.
Mae gan San Steffan a Brwsel hyd at ddiwedd y flwyddyn i gytuno ar gytundeb masnach.
Yn ôl yr asiantaeth, maent yn cynnal trafodaethau gydag oddeutu 425 o gwmnïau sy’n ystyried symud neu ehangu i’r Iseldiroedd oherwydd Brexit.
Mae’r cwmnïau yn dod o Brydain, ond hefyd yn cynnwys busnesau o America ac Asia sydd yn ystyried ail-strwythuro eu gweithrediadau yn Ewrop yn sgil Brexit.
“Bydd 2020 yn flwyddyn bwysig i’r busnesau yma,” meddai Jeroen Nijland o Asiantaeth Buddsoddiad Tramor yr Iseldiroedd.
Er bod rhai busnesau yn disgwyl i weld sut fydd perthynas economaidd newydd y Deyrnas Unedig yn edrych, “mae mwy a mwy o fusnesau yn dewis y sicrwydd a’r sefydlogrwydd mae ein gwlad yn ei gynnig yn y farchnad Ewropeaidd,” meddai.