Mae teulu Caroline Flack wedi cyhoeddi post Instagram a ysgrifennodd y gyflwynwraig, ond na chafodd ei gyhoeddi, ddyddiau cyn iddi gymryd ei bywyd ei hun.

Yn y neges, roedd wedi dweud bod ei bywyd a’i dyfodol wedi ei rwygo oddi wrthi mewn 24 awr.

Disgrifiodd cyn gyflwynwraig Love Island y digwyddiad domestig rhyngddi hi a’i chariad Lewis Burton fel “damwain”.

“Ar Rhagfyr y 12ed 2019, cefais fy arestio am ymosod ar fy nghariad,” dywedodd. “Mewn 24 awr cafodd fy mywyd a fy nyfodol ei rwygo oddi arna i, a’r waliau a gymrodd gymaint o amser i mi eu codi o fy amgylch, wedi eu chwalu.”

“Mewn dim amser rydw i ar lwyfan gwahanol iawn ac mae pawb yn ei wylio yn digwydd.”

“Rydw i wastad wedi cymryd cyfrifoldeb o’r hyn ddigwyddodd ar y noson, hyd yn oed ar y noson ei hun.”

“Ond y gwirionedd yw… damwain oedd e.”

Rhannu’r neges

Rhannodd ei mam, Chris Flack y post yn eu papur lleol yn Norfolk, ble magwyd y gyflwynwraig.

Dywedodd sut yr oedd ei merch wedi cael ei chynghori i beidio rhannu’r post ar y cyfryngau cymdeithasol, ond roedd ei theulu “eisiau i bobl ei ddarllen.”

“Roedd yn disgrifio’r ffordd yr oedd yn teimlo a beth yr oedd hi’n mynd trwyddo, dim mwy na hynny,” meddai ei mam. “Doedd hi ddim yn beio neb nac yn pwyntio bys.”

Yn y neges, aeth Caroline Flack ymlaen i ddweud

“Rydw i wedi derbyn pob cywilydd a beirniadaeth wenwynig o fy mywyd am dros 10 mlynedd, ac eto roeddwn i’n dweud wrth fy hun ei fod yn rhan o’r swydd.”

“Dim cwyno.”

“Y broblem hefo sgubo pethau o dan y carped yw… maen nhw dal yno a rhyw ddiwrnod mae rhywun am ddod a chodi’r carped a’r oll fyddi di’n ei deimlo fydd gwarth a chywilydd.”

Agorodd cwest Caroline Flack heddiw, (Dydd Mercher, Chwefror 19) bedwar niwrnod ar ôl i’r gyflwynwraig 40 mlwydd oed gael ei darganfod yn farw yn ei fflat yn Llundain.