Mae Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd tywydd melyn gyda bygythiadau y bydd storm Ciara yn “hyrddio” mewn i’r Deyrnas Unedig dros y penwythnos.

Yn ôl y rhagolygon, bydd yna tywydd garw ar hyd a lled y Deyrnas Unedig rhwng 6 yr hwyr dydd Sadwrn (Chwefror 8), a hanner nos ddydd Sul.

“Mae yna botensial am wyntoedd 80 milltir yr awr mewn lleoliadau agored ar hyd y Deyrnas Unedig,” meddai meteorolegydd yn y Swyddfa Dywydd, Grahame Madge.

Rhybuddiodd hefyd am bosibilrwydd o “lifogydd arfordirol, gwyntoedd cryfion ar hyd glannau môr” yn ogystal â chau pontydd a lonydd.

“Gallwn weld effaith ar rwydweithiau ffôn a phŵer,” meddai Grahame Madge.