Mae archfarchnadoedd wedi cyhoeddi y byddan nhw’n lleihau prisiau tanwydd am yr ail waith mewn 8 diwrnod, er bod cwymp mewn costau manwerthu ers wythnosau.
Bydd Asda, Morrisons a Sainsbury’s yn torri eu prisiau 4c y litr am ddisel, a 2c y litr am betrol yn y dyddiau nesaf.
Daw hyn er i’r tri dorri prisiau’r ddau danwydd o 3c y litr eisoes ar Chwefror 5.
Ond mae sefydliadau moduro yn honni ei bod wedi cymryd llawer gormod o amser i’r archfarchnadoedd i basio’r gostyngiadau yma.
“I’r crefftwyr, gweithwyr amaethyddol a busnesau bach sydd yn ddibynnol ar y tanwydd yma, mae’r prisiau uchel yma yn ei gwneud hi’n anodd arnyn nhw i wneud yn iawn am gostau cynyddol eraill, a gwneud iddyn nhw fynd i drafferthion,” meddai Luke Bosdet, llefarydd am brisiau tanwydd i’r AA.
Yn ôl Simon Williams o’r RAC, “mae’r prisiau maen nhw’n ei godi wrth y pwmp allan o bob rheswm ers wythnosau”.
“A dweud y gwir, fe gawson ni sefyllfa hollol bisâr ac annheg ble roedd yr archfarchnadoedd yn codi prisiau pan oedd costau manwerthu yn cwympo, gan olygu fod gyrwyr wedi bod yn talu llawer mwy nag y dylen nhw.”
Yn ôl ffigurau’r Llywodraeth a gyhoeddwyd ddydd Mawrth, ar gyfartaledd pris petrol ym Mhrydain oedd 125.85c y litr a phris disel oedd 131.48c y litr.
O hyn ymlaen, ni bydd gyrwyr sy’ llenwi eu ceir yn Asda yn talu dim mwy na 120.7 y litr am ddisel a 118.7c y litr am betrol.