Mae ffrae wedi codi rhwng Cyngor Abertawe a thrigolion pentref Felindre ar gyrion y ddinas dros werthiant safle ysgol Felindre mewn ocsiwn yn Llundain.
Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre yn y Parsel Mawr, sef y gymuned â’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg yn Sir Abertawe – 38.% o’i chymharu ag 11% ledled y sir.
Yn ôl trigolion Felindre, sy’n awyddus i weld y safle’n cael ei hadnewyddu a pharhau fel ysgol, dyw’r cyngor ddim wedi ymgynghori â’r gymuned ynghylch yr ocsiwn, sy’n cael ei gynnal ar Chwefror 13.
Roedd Angharad Dafis eisoes wedi cwyno wrth y Comisiynydd Iaith a oedd yn feirniadol o’r cyngor am gau’r ysgol heb ddigon o ymgynghori ac ystyriaeth i’r effaith ar y Gymraeg.
Wrth ymateb iddi roedd y Comisiynydd wedi dweud: “Yr unig gasgliad y gellir dod iddo yw y gallasai’r penderfyniad fod wedi bod yn wahanol i’r un a wnaed.”
Mewn llythyr i Gyngor Abertawe, dywed Angharad Dafis: “Ysgrifennaf atoch i ofyn a yw’r Cyngor wedi ymgynghori â’r gymuned yn Felindre ynghylch effaith y penderfyniad hwn ar y Gymraeg, ac a yw wedi gwneud asesiad o’r effaith honno? Ni allaf ganfod tystiolaeth ar wefan y Cyngor fod hyn wedi digwydd.”
Ymatebodd y Cyngor drwy ddweud: “Yn dilyn penderfyniad yr awdurdod addysg i gau Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre, nid oes angen yr eiddo ar Gyngor Abertawe mwyach ac felly nid yw’n ymarferol i gadw’r eiddo na buddsoddi ynddo oherwydd ei oedran a’i gyflwr.”
Mae Angharad Dafis nawr yn galw i’r Comisiynydd Iaith gael y grym i atal cau ysgolion gwledig Cymraeg nes bod yr ymchwiliad wedi ei gwblhau, yn ogystal â’r grym i wyrdroi’r penderfyniad lle nad yw’r broses wedi cael ei ddilyn yn gywir.