Roedd y dyn a gafodd ei saethu’n farw gan yr heddlu yn dilyn ymosodiad yn Streatham yn ne Llundain newydd ei ryddhau o’r carchar ar ôl cael ei ddedfrydu am droseddau brawychol.

Dywedodd yr heddlu bod y dyn heb gael ei adnabod yn swyddogol hyd yn hyn ond eu bod yn “hyderus” mai Sudesh Amman, 20 oed, oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad.

Cafodd dau berson eu trywanu yn yr ymosodiad yn Streatham bnawn dydd Sul (Chwefror 2) ac mae’r heddlu’n credu bod cymhelliad brawychol y tu ôl i’r digwyddiad.

Mae’n debyg bod Sudesh Amman wedi’i garcharu ym mis Rhagfyr 2018 am fod a dogfennau brawychol yn ei feddiant a’u dosbarthu nhw. Cafodd ei ryddhau yn ystod y chwe wythnos ddiwethaf.

Dywedodd Sam Armstrong, o Gymdeithas Henry Jackson, melin drafod yn ymwneud a pholisi tramor, bod y gymdeithas wedi cael rhybudd ym mis Rhagfyr bod Sudesh Amman ar fin cael ei ryddhau ac y dylai gael ei gadw dan glo.

Roedd Sudesh Amman, o Harrow yn ne Llundain, wedi cael ei garcharu am dair blynedd a phedwar mis.

Roedd swyddogion arfog Soctland Yard yn ei ddilyn ar droed fel rhan o ymgyrch gwrth-frawychol, pan ddigwyddodd yr ymosodiad.

Cafodd dyn yn ei 40au ei drywanu ond mae’n debyg nad yw bellach mewn cyflwr sy’n bygwth ei fywyd, a chafodd dynes yn ei 50au, ei rhyddhau o’r ysbyty ar ôl cael triniaeth.

Roedd dynes arall yn ei 20au wedi cael man anafiadau.

Mae adran gwrth-frawychiaeth Heddlu’r Met yn cynnal ymchwiliad i’r digwyddiad.

Yn y cyfamser mae’r Prif Weinidog Boris Johnson wedi dweud y bydd yn cyhoeddi cynlluniau ddydd Llun (Chwefror 3) i gyflwyno mesurau gwrth-frawychiaeth newydd i ddelio gyda throseddwyr sydd wedi’u cyhuddo o droseddau brawychol, yn dilyn yr ymosodiad.

Mae disgwyl i’r mesurau gynnwys dedfrydau hirach yn y carchar a rhagor o arian i’r heddlu.