Mae Emily Thornberry yn gobeithio denu cefnogaeth aelodau’r Blaid Lafur mewn hystingau yng Nghaerdydd er mwyn cael cyflwyno’i henw yn y ras i arwain y blaid.
Hi yw’r olaf o’r darpar ymgeiswyr i gyflwyno’i henw, ond does ganddi ddim digon o gefnogaeth i wneud hynny ar hyn o bryd, bythefnos cyn y dyddiad cau ar Chwefror 14.
“Ewch ati i’w wneud e” oedd ei neges yn ystod y cyfarfod, gan ychwanegu mai hi yw’r ymgeisydd mwyaf profiadol.
Mae angen iddi ddibynnnu ar gefnogaeth 33 o ganghennau lleol er mwyn cael sefyll – mae ganddi naw hyd yn hyn.
“Pam na wnewch chi roi cyfle i fi fod ynghlwm yn y ddadl hon, ond alla i ddim gwneud hynny os nad ydych chi’n fy enwebu.
“Plis ewch ati i’w wneud e.”
Yr ymgeiswyr eraill yw Lisa Nandy, Keir Starmer a Rebecca Long-Bailey
‘Pum blaenoriaeth’
Mae hi’n galw am sicrhau bod gan yr ymgeiswyr bum blaenoriaeth, yn hytrach na phentyrru polisïau.
“Dw i ddim eisiau mynd yn ôl i’r 1990au ac eithrio ennill etholiadau,” meddai wrth y gynulleidfa yn y brifddinas.
“Un o’r ffyrdd rydyn ni’n ennill etholiadau yw trwy gael cerdyn addewidion a chael pum blaenoriaeth.
“Mae angen i ni allu blaenoriaethu’r hyn ry’n ni’n sefyll drosto, fel bod pobol yn deall beth rydyn ni’n sefyll drosto a ddim yn teimlo dan y don.”