Mae dau aelod o’r un teulu wedi profi’n bositif am coronavirus yn Lloegr.

Daw hyn wrth i 80 o ddinasyddion Prydeinig deithio yn ôl i’r Deyrnas Unedig o Tsieina.

Gwrthododd y Weinyddiaeth Iechyd ddatgelu ym mha le yn Lloegr y mae’r dioddefwyr – ond mae’n derbyn eu bod nhw’n deillio o ardal y Wirral, lle mae cyfleusterau wedi cael eu gosod i gadw’r rhai sy’n dychwelyd o Wuhan oddi wrth y cyhoedd.

Mae’r ddau ddioddefwr yn cael eu trin mewn ysbyty yn Newcastle.

Mewn datganiad heddiw (dydd Gwener, Ionawr 31) dywed y Prif Swyddog Meddygol, Professor Chris Whitty: “Mae’r dioddefwyr yn derbyn gofal arbenigol gan y Gwasanaeth Iechyd, ac rydym yn defnyddio gweithdrefn rheoli heintiad i rwystro’r feirws rhag lledaenu.

“Mae’r Gwasanaeth Iechyd yn hollol barod ac wedi arfer rheoli heintiad, ac rydym yn gweithio’n gyflym er mwyn sefydlu unrhyw gysylltiad gafodd y dioddefwyr gydag aelodau o’r cyhoedd er mwyn gwneud yn siŵr nad yw’r feirws yn lledaenu.”