Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, wedi cyhoeddi y bydd ymgyrch yn erbyn twyllwyr “gwarthus o greulon”.
Bu i ddioddefwyr yng ngogledd Cymru golli bron i £9 miliwn trwy dwyll.
Mae Panel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi rhoi sêl bendith i gynnydd o 25 ceiniog yr wythnos yng nghost plismona, er mwyn gallu mynd i’r afael â thwyll.
Yn ogystal â sefydlu’r Uned Troseddau Economaidd gyda phum aelod newydd dan arweiniad Ditectif Arolygydd, mae Arfon Jones hefyd am ariannu penodi aelod newydd o’r tîm yn y Ganolfan Cymorth i Ddioddefwyr yn Llanelwy i arbenigo mewn cefnogi dioddefwyr twyll.
Mae’r uned ymhlith llu o gynlluniau newydd a gyhoeddwyd gan Arfon Jones, sy’n gyn-Arolygydd Heddlu.
Yn ôl Arfon Jones, mae’r strategaeth yn cyd-fynd â dymuniadau pobl Gogledd Cymru, gyda 95% o’r cyhoedd yn dweud eu bod nhw o blaid yr ymgyrch.
“Rwyf wedi gofyn i’r heddlu sefydlu uned bwrpasol i ddelio gyda Throseddau Economaidd oherwydd y cynnydd yn nifer yr achosion o dwyll a’r dioddefaint y mae’n ei achosi i bobl,” meddai Arfon Jones.
“Mae pobl fregus, yn aml iawn yr henoed, yn cael eu targedu’n benodol ac mae hynny’n warthus o greulon.”