Mae dros hanner plant y Deyrnas Unedig yn cysgu â’u ffonau symudol wrth ymyl eu gwelyau, yn ôl astudiaeth ddiweddar.
Mae adroddiad Childwise, y cwmni ymchwil, hefyd yn dangos bod y rhan fwyaf o blant bellach yn derbyn ffôn erbyn iddyn nhw droi’n saith blwydd oed.
Ac ar gyfartaledd mae plant saith i 16 oed yn treulio tair awr a 20 munud ar eu ffonau symudol pob dydd.
Ffigurau
Yn ôl yr astudiaeth, mae 57% o blant yn cadw ffôn wrth eu gwely, ac mae 44% yn teimlo’n “anghyffyrddus” os nad oes ganddyn nhw signal.
Mae 42% yn dweud eu bod yn mynd â’u ffôn â nhw i bob man, a byth yn ei ddiffodd. Ac mae ffonau 70% o blant wedi’u cysylltu â’r we.
Cafodd 2,200 o blant rhwng pump ac 16 oed eu holi fel rhan o’r astudiaeth.