Mae gwariant Llywodraeth y Deyrnas Unedig  ar amddiffyn yng Nghymru wedi cyrraedd mwy na £1bn am y tro cyntaf, ac yn cefnogi mwy na 7,000 o swyddi.

Cyhoeddodd y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi ffigyrau heddiw ( dydd Iau, Ionawr 30) yn dangos bod gwariant caffael yr adran yng Nghymru wedi cynyddu o £960m yn 2017-18 i £1bn y flwyddyn ddiwethaf – cynnydd o £310 i £350 y pen mewn gwariant.

Mae’r prosiectau amddiffyn yng Nghymru yn cynnwys cynhyrchu’r genhedlaeth cerbydau arfog AJAX y Fyddin yn General Dynamics ym Merthyr Tudful ac Oakdale, datblygu Canolfan Llynges Frenhinol newydd gwerth £11 miliwn ym Mae Caerdydd a chytundeb gwerth £250m gyda Raytheon ym Mrychdin i ddarparu gwasanaeth cefnogaeth i’r Llu Awyr Brenhinol o awyrennau gwyliadwriaeth.

Dywed yr Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart: “Mae’r buddsoddiad yma mewn busnes megis General Dynamics, Raytheon ac eraill yn gwneud Cymru’n ganolbwynt gwirioneddol i’r diwydiant amddiffyn ac un o’r lleoliadau mwyaf cystadleuol yn y byd i arloesi a darparu diogelwch.”

Ac Yn ôl yr Ysgrifennydd Amddiffyn Ben Wallace: “Mae amddiffyn yn parhau i ddarparu diogelwch a ffyniant wrth i weld biliynau yn cael eu buddsoddi ar draws y Deyrnas Unedig gan gefnogi cannoedd o filoedd o swyddi dilynol.”