Mae gweinyddiaeth iechyd India wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi darganfod yr achos cyntaf o coronavirus yn nhalaith ddeheuol Kerala.

Mae myfyriwr oedd wedi treulio amser yn astudio ym Mhrifysgol Wuhan wedi profi’n bositif am coronavirus.

Yn ôl y weinyddiaeth mae’r myfyriwr yn cael ei gadw ar ben ei hun a’i fonitro mewn ysbyty.

Dyw hi ddim yn glir pryd ddaru’r myfyriwr ddychwelyd i India o Tsieina.

Mae teithwyr sy’n dychwelyd o Tsieina yn cael eu profi am symptomau mewn o leiaf 20 maes awyr ar hyd India.

Ac mae’r llywodraeth yn dweud eu bod yn bwriadu defnyddio dwy awyren i gludo dinasyddion Indiaid o Hubei yn Tsieina a’u cadw ar wahân am 28 diwrnod yn New Delhi.

Dim ond pobl sydd ddim i weld yn dioddef o symptomau ffliw fydd yn cael trafeilio yn ôl y weinyddiaeth iechyd.