Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi’i enwi’n gyflogwr LHDT+ (lesbiaid, pobol hoyw, deurywiol, trawsrywiol) gorau Cymru.
Bob blwyddyn mae elusen Stonewall yn cyhoeddi rhestr o’r 100 cyflogwr gorau yn y Deyrnas Unedig, ac eleni roedd y Cynulliad yn yr wythfed safle.
Dyma’r chweched flynedd yn olynol i’r sefydliad fod ymhlith y deg uchaf, a does dim un corff Cymreig yn uwch na hi eleni.
Llywodraeth Cymru oedd yr ail gorff orau yng Nghymru (safle naw o’r 100) ac roedd Prifysgol Caerdydd yn drydydd (safle 10 o’r 100).
“Ysbrydoli”
Mae Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi croesawu’r rhestr ac am i’w chorff “ysbrydoli eraill” i drawsnewid eu gweithleoedd.
“Heb os, mae [Rhestr] Stonewall wedi chwarae rhan enfawr wrth ysbrydoli mwy a mwy o gyflogwyr bob blwyddyn i fynd ati i wella cynhwysiant,” meddai.
“Ein nod ni yw annog, cefnogi ac ysbrydoli eraill, yng Nghymru a thu hwnt.”
Mae sefydliadau cyhoeddus yn ogystal â phreifat yn gymwys i fod ar y rhestr, ac mae safle’r cyrff yn dibynnu ar ba mor agored mae eu gweithleoedd i bobol LHDT+.
Canlyniadau Cymru
- Cynulliad Cenedlaethol Cymru (8)
- Llywodraeth Cymru (9)
- Prifysgol Caerdydd (10)
- Grŵp Prifysgol De Cymru (24)
- Victim Support (25)
- Swyddfa Hawliau Eiddo (25)
- Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr (39)
- Prifysgol Abertawe (47)
- Coleg y Cymoedd (79)
- Cyngor Rhondda Cynon Taf (93)
- Iechyd Cyhoeddus Cymru (100)