Mae coronavirus bellach wedi lledu i bob rhan o Tsieina ac wedi lladd 170 o bobol.

Erbyn hyn mae’r firws wedi cyrraedd Tibet, a hyd yma mae awdurdodau wedi cadarnhau 7,711 achos o’r firws yn Tsieina. 

Mae’r haint wedi lledu i o leiaf 15 gwlad arall, ac ymhlith y gwledydd yma mae’r Almaen, Fietnam a Japan. Doed dim achosion wedi eu cadarnhau yn y Deyrnas Unedig.

Ar dydd Iau (Ionawr 30) mi fydd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn ymgynnull unwaith eto i ystyried galw’r sefyllfa yn ‘argyfwng iechyd rhyngwladol’.

Brechlyn

Ar hyn o bryd does dim dull syml o rwystro pobol rhag dal y firws, ac mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu brechlyn.

Mae labordy yn California, yr Unol Daleithiau, eisoes wedi dechrau ar y gwaith ac maen nhw’n gobeithio profi eu brechlyn hwythau ar bobol yn yr haf.