Bangor 1876 yw un o’r timau pêl-droed cyntaf yng Nghymru i dderbyn grant i gymryd mewn prosiect pêl-droed a iechyd meddwl.
Mae Rydym yn gwisgo’r un crys yn fenter sy’n cael ei rhedeg mewn cydweithrediad gyda Meddwl Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru.
Bydd y prosiect yn galluogi pobol sy’n dioddef gydag iechyd meddwl i ddod at ei gilydd i drafod eu sialensiau, yn ogystal â chymryd rhan mewn sesiynau pêl-droed.
Dywed Cyfarwyddwr pêl-droed Bangor 1876 Iwan William: “Mae iechyd meddwl yn fater mawr ar hyn o bryd, ac i rai pobl mae yno stigma ynghylch gofyn am help.
“Rydan ni’n gobeithio y bydd cynnig cefnogaeth drwy bêl-droed yn annog pobol i fod yn rhan o’r fenter hwn.”