Mae clo Cymru Jake Ball yn credu y bydd prif hyfforddwr newydd Cymru, Wayne Pivac yn llwyddiant gyda thîm rhyngwladol Cymru.
Bydd Wayne Pivac yn cymryd yr awenau am y tro cyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn yr Eidal ddydd Sadwrn (Chwefror 1).
Mae Jake Ball yn gyfarwydd â thactegau a steil Wayne Pivac wedi pum mlynedd o dan arweiniad tra’n chwarae i’r Sacrlets
A dywed Jake Ball fod gan Wayne Pivac yr holl rinweddau sydd eu hangen i lwyddo gyda Chymru.
“Dwi’n meddwl bod Wayne yn glir ar y ffordd mae o eisiau chwarae.”
“Rydym eisiau chwarae steil cyffrous o rygbi ac mae’r wythnosau nesaf yn mynd i fod yn hynod ddiddorol.”