Mae arweinydd Catalwnia’n dweud y bydd e’n cyhoeddi dyddiad yr etholiad cyffredinol ar ôl i’r Gyllideb gael ei phasio.

Mae’n dweud bod y ddeddfwrfa bresennol “wedi dyddio’n wleidyddol” ac na all “unrhyw lywodraeth weithredu heb undod, strategaeth gyffredin ar faterion allweddol ac ufudd-dod rhwng aelodau”.

Mae’n dweud y dylai’r etholiad gynnig y cyfle i drigolion Catalwnia gael “democratiaeth, cyfiawnder a rhyddid”, a bod hynny’n cynnwys “gwireddu mandad refferendwm Hydref 1 – tuag at y nod o annibyniaeth”.

Mae hefyd yn dweud bod “Llywodraeth Catalwnia allan yn yr oerfel” o ganlyniad i benderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan Lywodraeth Sbaen heb eu cydsyniad, gan gynnwys y penderfyniad i’w symud o’i swydd sydd wedi “rhoi Catalwnia mewn perygl parhaus”.

Y Gyllideb

Mae’n dweud bod angen Cyllideb “a fydd yn cyfrannu at fynd i’r afael â nifer o wendidau cymdeithasol a diwallu nifer o anghenion”.

Mae disgwyl i Quem Torra gyfarfod â Pedro Sanchez, prif weinidog Sbaen, ar Chwefror 6.

Mae’n dweud ei fod e am weld Sbaen yn rhoi terfyn ar gymryd camau am yn ôl, a pharchu “egwyddorion democrataidd sylfaenol”.

Mae’n dweud y bydd e’n ceisio sicrhau bod Llywodraeth Sbaen wedi ymrwymo i “drafodaethau go iawn” er mwyn datrys sefyllfa Catalwnia yn sgil yr amharodrwydd i gynnal refferendwm annibyniaeth.