Mae’r Arglwydd Tony Hall wedi cyhoeddi y bydd yn camu o’i swydd fel cyfarwyddwr cyffredinol y BBC yn yr haf.
Fe ddechreuodd yn y swydd ym mis Ebrill 2013 a daeth ei gyhoeddiad mewn neges i staff y BBC, gan ddweud y bydd yn parhau yn y swydd am chwe mis cyn gadael yn yr haf.
Dywedodd ei fod wedi bod yn “benderfyniad anodd” ond ei fod eisiau rhoi “buddiannau’r gorfforaeth yn gyntaf”.
Ychwanegodd ei fod yn teimlo ei fod yn gadael y BBC mewn sefyllfa “mwy cadarn” na phan ddechreuodd.
Daw ymadawiad Tony Hall, 68, yn ystod cyfnod cythryblus i’r gorfforaeth, gyda chyflog cyfartal, honiadau o ragfarn wleidyddol, a’r drwydded deledu ar frig yr agenda.
Dywedodd cadeirydd y BBC, Syr David Clementi bod Tony Hall wedi bod yn “arweinydd ysbrydoledig a chreadigol, o fewn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.”
Ychwanegodd y bydd y swydd yn cael ei hysbysebu o fewn yr wythnosau nesaf.