Bydd gig Cymraeg yn cael ei chynnal yn Lerpwl eleni er mwyn nodi Dydd Miwsig Cymru.

Bydd cyfres o gigs a digwyddiadau yn cael eu cynnal ledled y byd ar Chwefror 7 i ddathlu cerddoriaeth Gymraeg.

A thua hanner dydd ar y diwrnod hwnnw bydd Adwaith, triawd ôl-bync o Sir Gaerfyrddin, yn perfformio sioe am ddim y tu allan i adeilad Cunard yn ardal Pier Head Lerpwl.

Mae Lerpwl yn rhan o raglen ‘Dinas Gerdd’ UNESCO (Mudiad Addysgol, Gwyddonol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig), ac yn gyrchfan sydd â chysylltiadau helaeth â Chymru.

“Newyddion cyffrous”

“Mae’n newyddion cyffrous iawn y bydd Lerpwl yn ymuno yn nathliadau Dydd Miwsig Cymru gyda gig ar y Pier Head gan yr anhygoel Adwaith,” meddai Kevin McManus, Pennaeth Dinas Gerdd UNESCO.

“Mae perthynas agos a chryf wedi bod rhwng Lerpwl a Chymru erioed, ac mae’r gig yma’n gadarnhad gwych o’r cysylltiadau hanesyddol yma.”

Mae Dydd Miwsig Cymru yn rhan o ymdrechion Llywodraeth Cymru i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.