Mae grŵp City Pub, sy’n berchen 47 o dafarndai yng Nghymru a de Lloegr, wedi rhybuddio y gallai’r elw blynyddol fod yn is na’r disgwyl.

Yn ôl penaethiaid y gadwyn o dafarndai roedd nifer o ffactorau wedi effeithio’r busnes gan ddweud nad oedd eu perfformiad yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd mor dda ag oedden nhw’n ei ddisgwyl.

Maen nhw hefyd yn rhoi’r bai ar yr ansicrwydd gwleidyddol a arweiniodd at etholiad cyffredinol ym mis Rhagfyr, a thywydd gwlyb ym mis Tachwedd a Rhagfyr.

Roedd gwerth cyfrannau City Pub wedi gostwng bron i 14% yn dilyn y cyhoeddiad – i lawr 30c i 187.5p.

Yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 29 roedd gwerthiant wedi cynnyddu 31% i £59.8m ond fe rybuddiodd y cwmni y byddai elw cyn treth “ychydig yn is na’r disgwyl” rhwng £9.1m a £9.2m.

Yn y flwyddyn i ddod dywed Grŵp City Pub eu bod nhw am barhau i ganolbwyntio ar wella eu helw a gwerthu dwy dafarn sydd ddim yn perfformio yn ôl y disgwyl.